Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIWN 5

Sut Galla’ i Ddelio â Bwlis yn yr Ysgol?

Sut Galla’ i Ddelio â Bwlis yn yr Ysgol?

PAM MAE’N BWYSIG?

Bydd dy ymateb yn gwella neu’n gwaethygu’r sefyllfa.

BETH BYDDET TI’N EI WNEUD?

Dychmyga hyn: Dydy Tomos ddim eisiau mynd i’r ysgol heddiw. Nac yfory. Nac am weddill ei fywyd. Dechreuodd ryw dri mis yn ôl pan oedd ei gyd-ddisgyblion yn adrodd celwyddau cas amdano. Wedyn roedden nhw’n galw enwau arno. Weithiau mae rhywun yn taro Tomos ac mae’n gollwng ei lyfrau, neu mae Tomos yn cael ei wthio gan rywun o grŵp y tu ôl iddo, ond mae’n amhosib iddo ddweud pwy a wnaeth. Ddoe, trodd y bwlio’n filain dros ben pan dderbyniodd Tomos neges fygythiol dros y we . . .

Os oeddet ti yn sefyllfa Tomos, beth byddet ti’n ei wneud?

ARHOSA A MEDDYLIA!

Mae gen ti bŵer i weithredu! Gelli di guro bwli heb ddefnyddio dy ddyrnau. Ond sut?

  • PAID AG YMATEB. Dywed y Beibl: “Y mae’r ffŵl yn arllwys ei holl ddig, ond y mae’r doeth yn ei gadw dan reolaeth.” (Diarhebion 29:11) Os nad wyt ti’n cynhyrfu—o leiaf ar y tu allan—efallai bydd y bwlis yn colli diddordeb ynot.

  • PAID Â THARO’N ÔL. Dywed y Beibl: “Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb.” (Rhufeiniaid 12:17) Mae ceisio talu’r pwyth yn ôl dim ond yn gwaethygu’r sefyllfa.

  • CEISIA OSGOI TRWBL. Dywed y Beibl: “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi.” (Diarhebion 22:3, beibl.net) Cyn belled ag sy’n bosibl, ceisia osgoi’r bobl sy’n peri trafferth iti, a sefyllfaoedd lle mae bwlio’n debygol o ddigwydd.

  • CEISIA YMATEB ANNISGWYL. Dywed y Beibl: “Mae ateb caredig yn tawelu tymer.” (Diarhebion 15:1, beibl.net) Weithiau, mae’n bosibl i dawelu pobl â hiwmor. Er enghraifft, os yw bwli yn honni dy fod ti’n dew, gelli di ddweud, “Dw i’n cadw’n gynnes dros y gaeaf!”

  • CERDDA I FFWRDD. “Mae cadw’n ddistaw yn dangos dy fod ti’n aeddfed ac yn gryfach na’r bwli,” meddai Nora, 19 oed. “Mae’n dangos hunanreolaeth, rhywbeth sydd ar goll yn y bwli.”—2 Timotheus 2:24.

  • CRYFHA DY HUNANHYDER. Yn aml, gall bwlis synhwyro pa bobl sy’n anhyderus ac felly yn eu targedu nhw oherwydd maen nhw’n llai tebygol o amddiffyn eu hunain. Ar y llaw arall, bydd rhan fwyaf o fwlis yn gadael llonydd iti os ydyn nhw’n gweld nad yw eu geiriau yn effeithio arnat.

  • SIARAD Â RHYWUN. Dywedodd un cyn-athro: “Rydw i’n annog unrhyw un sydd yn cael ei fwlio i ddweud wrth rywun. Dyna’r peth iawn i wneud, ac mae’n medru achub rhywun arall rhag cael ei fwlio.”

Bydd hunanhyder yn rhoi nerth i ti, tra bod y bwli yn wan ar y tu mewn