Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIWN 6

Sut Galla’ i Wrthsefyll Pwysau gan Gyfoedion?

Sut Galla’ i Wrthsefyll Pwysau gan Gyfoedion?

PAM MAE’N BWYSIG?

Yn lle gadael i eraill reoli dy fywyd, byddi di’n sefyll ar dy draed dy hun.

BETH BYDDET TI’N EI WNEUD?

Dychmyga hyn: Wrth i ddau fachgen o ddosbarth Bryn gerdded ato, y mae’n teimlo poen yn ei stumog. Dyma’r trydydd tro yr wythnos hon iddyn nhw gynnig sigarét iddo.

Mae un o’r bechgyn yn cychwyn:

“Ar dy ben dy hun eto? Beth am wneud ffrind newydd?”

Mae’n pwysleisio’r gair “ffrind” gyda winc wrth iddo dynnu rhywbeth o’i boced ac ymestyn ei law at Bryn.

Mae Bryn yn gweld y sigarét rhwng ei fys a’i fawd. Mae’r poen yn ei stumog yn gwaethygu.

“Sori,” meddai Bryn. “Dw i wedi dweud yn barod dw i ddim . . . ”

Mae’r ail fachgen yn torri ar ei draws: “Paid â bod yn fabi!”

“Dydw i ddim!” meddai Bryn, yn ceisio bod yn ddewr.

Mae’r ail fachgen yn rhoi ei fraich ar ysgwydd Bryn. “Cymera fo,” mae’n dweud yn ddistaw.

Dyma’r bachgen cyntaf yn rhoi’r sigarét wrth geg Bryn, ac yn sibrwd: “Wnawn ni ddim dweud wrth neb. Bydd neb yn gwybod.”

Os oeddet ti yn sefyllfa Bryn, sut byddet ti’n ymateb?

ARHOSA A MEDDYLIA!

Ydy cyfoedion Bryn wedi meddwl o ddifrif am eu hymddygiad? Ydyn nhw wedi penderfynu gwneud hyn o’u gwirfodd eu hunain? Tebyg ddim. Ar y cyfan, maen nhw wedi ildio i ddylanwad eraill er mwyn cael eu derbyn, ac felly maen nhw’n gadael i eraill siapio eu cymeriad.

Os oeddet ti’n wynebu sefyllfa o’r fath, sut byddi di’n medru dewis llwybr gwahanol, a gwrthod pwysau gan gyfoedion?

  1. RHAGWELD

    Dywed y Beibl: “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu’r pris.”—Diarhebion 22:3, beibl.net.

    Yn aml, gelli di weld problem yn codi ar y gorwel. Er enghraifft, dychmyga dy fod ti’n gweld grŵp o blant yn ysmygu. Drwy ragweld problem, byddi di’n barod i’w hwynebu.

  2. MEDDWL

    Dywed y Beibl: ‘Cadwch eich cydwybod yn lân.’—1 Pedr 3:16.

    Gofynna i ti dy hun, ‘Sut bydda’ i’n teimlo yn y pen draw os dw i’n dilyn y dorf?’ Yn wir, efallai cei di eu cymeradwyaeth am gyfnod. Ond sut byddet ti’n teimlo yn hwyrach? Wyt ti’n barod i aberthu dy hunaniaeth er mwyn plesio rhai o dy gyd-ddisgyblion?—Exodus 23:2.

  3. PENDERFYNU

    Dywed y Beibl: “Y mae’r doeth yn ofalus.”—Diarhebion 14:16.

    Yn hwyr neu’n hwyrach, bydd rhaid inni wneud penderfyniad a byw gyda’r canlyniadau. Mae’r Beibl yn sôn am Joseff, Job, a Iesu, dynion a wnaeth benderfyniadau doeth. Mae hefyd yn sôn am Cain, Esau, a Jwdas, dynion a wnaeth benderfyniadau drwg. Beth a wnei di?

Dywed y Beibl: “Yr ydych i weithredu’n ffyddlon.” (2 Cronicl 19:9) Os wyt ti wedi meddwl am y canlyniadau, ac wedi gwneud penderfyniad, bydd mynegi dy safiad yn haws nac wyt ti’n ei feddwl—ac o les iti.

Paid â phoeni—does neb yn gofyn iti roi pregeth i’th gyfoedion. Efallai fydd NA! cadarn yn gwneud y tro. Neu, i wneud dy safiad yn hollol glir a dangos nad yw’r mater ar agor i’w drafod, gelli di ddweud:

  • “Dw i’n iawn diolch!”

  • “Dw i ddim yn gwneud y fath beth!”

  • “Tyrd o ’na, ti’n ’nabod fi’n well na hynny!”

Mae’n hollbwysig i ateb yn hyderus a heb oedi. Os wyt ti’n gwneud hyn, efallai byddi di’n synnu pa mor gyflym bydd dy gyfoedion yn rhoi llonydd iti!

GWRTHSEFYLL GWAWDIO

Os wyt ti’n ildio i bwysau gan gyfoedion, byddet ti’n debyg i robot dan eu rheolaeth nhw

Beth os yw dy gyfoedion yn gwneud hwyl am dy ben? Beth os ydyn nhw’n dweud, “Be’ sydd? Dwyt ti ddim yn ddigon dewr?” Rhaid adnabod y fath yma o wawdio, a sylweddoli mai pwysau diddychymyg yw. Sut gelli di ymateb? Mae gen ti o leiaf dau ddewis.

  • Gelli di dderbyn y gwawd. (“Ti’n iawn, mae gen i ofn!” Yna, esbonia dy resymau yn fyr.)

  • Gelli di roi’r pwysau arnyn nhw. Dyweda pam rwyt ti’n gwrthod, ac apelia at eu rhesymeg. (“Smocio? Ro’n i’n meddwl dy fod ti’n gallach na hynny!”)

Os yw dy gyfoedion yn parhau i wawdio, cerdda i ffwrdd! Cofia, yr hirach rwyt ti’n aros, y trymach bydd y pwysau. Drwy ymadael â’r sefyllfa, byddi di’n dangos nad wyt ti am adael i eraill newid dy hunaniaeth.

Rhaid bod yn realistig, does dim modd cuddio rhag pwysau gan gyfoedion. Ond gelli di benderfynu beth i’w wneud, mynegi dy safiad, a chymryd yr awenau. Ar ddiwedd y dydd, ti biau’r dewis!—Josua 24:15.