Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIWN 10

Sut Gall y Beibl Fy Helpu I?

Sut Gall y Beibl Fy Helpu I?

PAM MAE’N BWYSIG?

Mae’r Beibl yn dweud bod “pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw.” (2 Timotheus 3:16) Os yw hyn yn wir, gall y Beibl roi’r cyfarwyddyd sydd angen arnat ti.

BETH BYDDET TI’N EI WNEUD?

Dychmyga hyn: Mae Dafydd yn gyrru mewn ardal anghyfarwydd. Mae’r arwyddion a’r pethau o’i gwmpas yn dangos iddo ei fod yn teithio ar y ffordd anghywir. Mae Dafydd yn sylweddoli ei fod ar goll. Mae’n debyg cymerodd droad anghywir ryw bryd yn ei daith.

Os oeddet ti yn sefyllfa Dafydd, beth byddet ti’n ei wneud?

ARHOSA A MEDDYLIA!

Mae gen ti sawl dewis:

  1. Gofyn am gyfarwyddiadau.

  2. Edrych ar fap, neu ddefnyddio GPS.

  3. Parhau i yrru, gan obeithio byddi di rywsut yn dod ar draws y ffordd gywir.

Yn amlwg, Opsiwn C yw’r lleiaf effeithiol.

Mae Opsiwn B yn well na’r cyntaf. Wedi’r cyfan, bydd map neu GPS wrth dy ochr, yn dy helpu drwy gydol dy daith.

Gall y Beibl dy helpu di mewn ffordd debyg!

Gall y llyfr mwyaf poblogaidd erioed:

  • dy arwain di drwy dreialon bywyd

  • dy helpu di i adnabod dy hun a dod yn berson gwell

  • dy ddangos di sut i gael y bywyd gorau oll

ATEB CWESTIYNAU MAWR BYWYD

O’r amser gallwn ni siarad, rydyn ni’n gofyn cwestiynau.

  • Pam y mae’r awyr yn las?

  • O beth y mae’r sêr wedi eu creu?

Yn hwyrach, rydyn ni’n dechrau gofyn cwestiynau am y byd o’n hamgylch.

Beth os yw’r atebion wedi bod yn y Beibl yr holl amser?

Mae llawer o bobl yn dweud bod y Beibl yn llawn chwedlau, ei fod yn hen ffasiwn, neu ei fod yn rhy anodd ei ddeall. Ond, ai’r Beibl yw’r broblem, neu ddiffyg gwybodaeth pobl eraill am y Beibl? Ydyn nhw wedi cael eu camarwain?

Mae pobl yn meddwl bod y Beibl yn dweud mai Duw sy’n rheoli’r byd. Ond sut gall hynny fod? Mae’r byd yn mynd o ddrwg i waeth! Mae’n llawn poen a dioddefaint, salwch a marwolaeth, tlodi a thrychineb. Sut gall Duw cariadus fod yn gyfrifol am hyn i gyd?

Hoffet ti wybod yr atebion? Efallai bydd yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud am bwy sy’n rheoli’r byd yn dy synnu di!

Mae’n debyg dy fod ti wedi sylwi fod y llyfryn hwn yn seiliedig ar y Beibl. Mae Tystion Jehofa yn gwbl sicr bod y Beibl yn ffynhonnell ddibynadwy o gyngor. Mae hyn oherwydd mae “pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro.” (2 Timotheus 3:16, 17) Rwyt ti’n haeddu archwilio’r llyfr hwn, sy’n fodern, er ei fod yn hen.