Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 4

Jehofa Yw Fy Mugail

Jehofa Yw Fy Mugail

(Salm 23)

  1. 1. Jehofa Dduw yw fy Mugail,

    Nid oes arnaf angen dim.

    Ei ddilyn wnaf, fy anghenion gaf,

    Mae’n wir yn f’adnabod i.

    At borfa hyfryd fe’m harwain,

    At ddyfroedd sy’n dawel ’r af,

    At lochesau saff mae’n fy nhywys i,

    Diogel orffwysfa gaf.

    At loches saff mae’n fy nhywys i,

    Diogel orffwysfa gaf.

  2. 2. Dy lwybrau di sy’n adfywio,

    O’u cerdded caf ymgryfhau.

    Er mwyn dy enw, achuba fi

    Rhag crwydro ymhell o’th braidd.

    Wrth fynd drwy’r dyffryn sy’n dywyll,

    Dan d’ofal dwi’n dychryn dim;

    Mae dy ffon yn gysur, rwyt gyda mi,

    Fy Mugail, fy Nuw, fy Ffrind.

    Nid ofnaf niwed, rwyt gyda mi,

    Fy Mugail, fy Nuw, fy Ffrind.

  3. 3. Jehofa, ti yw fy Mugail,

    Dwi’n dilyn d’arweiniad di.

    Mae gen i ddigon, a pheth dros ben,

    Yn ddedwydd yw ’nghalon i.

    Mor gyfiawn yw dy ddaioni,

    Mor ffyddlon yw’th gariad di,

    Ynot ti mae ’ngobaith, dy ddilyn wnaf

    Am weddill fy nyddiau i.

    Tydi yw ’ngobaith, dy ddilyn wnaf

    Am weddill fy nyddiau i.

(Gweler hefyd Salm 28:9; 80:1.)