CÂN 6
Mae’r Nefoedd yn Adrodd Gogoniant Duw
(Salm 19)
-
1. Adrodda’r nen ysblander gwych Jehofa.
Heb eiriau, y mae’r sêr
yn traethu’i grefftwaith ef.
Llefara’r haul ogoniannau i’w nerth.
Godidog yw gweithredoedd Duw!
Ei ganmol mae y nef.
-
2. Mae cyfraith Duw yn berffaith, mae’n adfywio.
Ei Air ef sydd yn lân.
Goleuo’r llygaid mae.
Ei reol ef sydd yn gyfiawn a theg.
Gwnaiff barnau gwir a chyngor pur
I’r galon lawenhau.
-
3. Mae ofn Jehofa yn parhau’n dragywydd.
Mwy gwerthfawr yw nag aur.
Fel mêl, mor felys yw.
Mor deilwng ydyw o’n parch, bri, a’n clod.
Moliannwn ef, Benarglwydd nef,
Ein gogoneddus Dduw!
(Gweler hefyd Salm 111:9; 145:5; Dat. 4:11.)