CÂN 9
Jehofa Yw Ein Brenin!
(Salm 97:1)
-
1. Moliannwch Dduw, a gorfoleddwch!
I Jehofa rhowch glod! Canwch gerdd o fawl!
Gyda’r nefoedd, cyhoeddwn ysblander ein Duw:
Ei holl weithgareddau gwych mawrhawn.
(CYTGAN)
Luoedd nef, llawenhewch! Molwch Dduw! Ef mawrhewch!
Gorfoleddwch! Brenin yw ein Duw!
Ar y ddaear, rhown glod i’r gwir Dduw, ’r Uchaf Fod.
Dathlu wnawn! Jehofa, Brenin yw!
-
2. Jehofa ydyw’r Un sy’n achub;
I’r cenhedloedd adroddwn gampweithiau Duw.
Ie, ef sydd yn haeddu’r gogoniant a’r clod.
Llawenhewch! Jehofa, Brenin yw!
(CYTGAN)
Luoedd nef, llawenhewch! Molwch Dduw! Ef mawrhewch!
Gorfoleddwch! Brenin yw ein Duw!
Ar y ddaear, rhown glod i’r gwir Dduw, ’r Uchaf Fod.
Dathlu wnawn! Jehofa, Brenin yw!
-
3. Llywodraeth Duw a ddaeth i’w hanterth,
Ar yr orsedd y mae Ei eneiniog Fab.
Caiff y duwiau diwerth
eu hysgubo ymaith.
Nid oes neb ond Duw yn haeddu’r mawl!
(CYTGAN)
Luoedd nef, llawenhewch! Molwch Dduw! Ef mawrhewch!
Gorfoleddwch! Brenin yw ein Duw!
Ar y ddaear, rhown glod i’r gwir Dduw, ’r Uchaf Fod.
Dathlu wnawn! Jehofa, Brenin yw!
(Gweler hefyd 1 Cron. 16:9; Salm 68:20; 97:6, 7.)