Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 18

Gwerthfawrogi’r Pridwerth

Gwerthfawrogi’r Pridwerth

(Luc 22:20)

  1. 1. Gerbron dy orsedd,

    Dduw Jehofa, safwn ni,

    Canys ti a rodd yr aberth

    i’n gollwng yn rhydd.

    Fe roist dy unig Fab

    er mwyn i ni gael byw.

    Nid oes dim cariad gwell na’th gariad,

    O annwyl Dduw.

    (CYTGAN)

    Ei fywyd dros ein bywyd ni,

    Ei waed i dalu pridwerth drud.

    Â chalon lawn,

    rhoi diolch wnawn i ti ein Duw hyd byth.

  2. 2. Ei roi ei hun yn berffaith offrwm

    a wnaeth Crist.

    Talodd uchel bris yn iawndal

    dros bechod y byd.

    Ein hachub wnaeth rhag angau

    y tragwyddol fedd.

    Ein gobaith nawr yw byw am byth

    yn nhragwyddol hedd.

    (CYTGAN)

    Ei fywyd dros ein bywyd ni,

    Ei waed i dalu pridwerth drud.

    Â chalon lawn,

    rhoi diolch wnawn i ti ein Duw hyd byth.