CÂN 19
Swper yr Arglwydd
-
1. Jehofa, mor sanctaidd yw heno.
I’r diwrnod, ganrifoedd yn ôl,
Dangos wnaethost dy rym a dy gariad i’r dim
Drwy warchod dy bobl liw nos.
Oherwydd gwaed oen fe’u gwaredwyd,
A’r ffyddlon, cerddasant yn rhydd.
Aberth trosom a wnaed—Crist dywalltodd ei waed.
Gwerthfawrogwn ei gariad a’i ffydd.
-
2. Fe welwn o’n blaen fara croyw.
Mewn cwpan y gwelwn y gwin.
Cynrychioli y maent
rodd heb bechod, heb haint—
Fe roddaist dy Fab di dy hun.
Pris uchel a delaist i’n hachub,
A heno rhown ddiolch i ti.
Telaist bridwerth oedd ddrud
er mwyn achub y byd
A rhoi bywyd i bobl fel ni.
-
3. Ein braint yw ymgynnull i gofio,
Yn ufudd i eiriau dy Fab.
Dyma ni ger dy fron
i roi diolch o’n bron.
Pob moliant i ti Dduw, ein Tad!
Anrhydedd yw dod i’th glodfori
A dangos ein cariad a’n ffydd.
Gwobr berffaith a gawn os ein gorau a wnawn,
A Christ Iesu ddilynwn bob dydd.
(Gweler hefyd Luc 22:14-20; 1 Cor. 11:23-26.)