Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 33

Bwrw Dy Faich ar Jehofa

Bwrw Dy Faich ar Jehofa

(Salm 55)

  1. 1. “O Dduw, Gwranda ar fy ngweddi.”

    Gwranda, plîs, ac ateb fi.

    Rho dawelwch yn fy nghalon,

    Gwna fy nghoesau gwan yn gryf.

    (CYTGAN)

    Bwrw’th faich ar Dduw Jehofa.

    Dibynadwy a chyson ydyw.

    Ef a’th gynnal, ef a’th achub.

    Trystia ef. Duw ffyddlon yw.

  2. 2. O! Pe bai gen i adenydd,

    Ffown i ffwrdd ymhell o’r trais.

    Cuddiwn rhag y storm a’r cyffro,

    Rhag pob twyll a gair sarhaus.

    (CYTGAN)

    Bwrw’th faich ar Dduw Jehofa.

    Dibynadwy a chyson ydyw.

    Ef a’th gynnal, ef a’th achub.

    Trystia ef. Duw ffyddlon yw.

  3. 3. Cysur, cymorth, cariad cyson,

    A hedd mewnol gawn gan Dduw.

    Cuddfan ydyw ef i’r cyfiawn.

    Ffyddlon a charedig yw.

    (CYTGAN)

    Bwrw’th faich ar Dduw Jehofa.

    Dibynadwy a chyson ydyw.

    Ef a’th gynnal, ef a’th achub.

    Trystia ef. Duw ffyddlon yw.

(Gweler hefyd Salm 22:5; 31:1-24.)