Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 34

Rhodio Mewn Uniondeb

Rhodio Mewn Uniondeb

(Salm 26)

  1. 1. O f’Arglwydd Dduw Jehofa, barna fi.

    Fy meddwl i, a’m byw, a’m calon, coetha plîs.

    Archwilia fi, a gosod fi ar brawf.

    Dwi wedi’th drystio di yn gyson hyd yn awr.

    (CYTGAN)

    Ymlaen yr af, Yn llwybrau Duw parhaf,

    O’m calon ufuddhaf, Yn uniawn rhodio wnaf.

  2. 2. Dwi’n cadw draw rhag dynion drwg di-bwyll.

    Dwi’n gwrthod cymdeithasu â’r rhai mawr eu twyll.

    Paid ’sgubo i ymaith â’r treisgar rai,

    Na’m lladd â’r pechaduriaid sydd yn dy gasáu.

    (CYTGAN)

    Ymlaen yr af, Yn llwybrau Duw parhaf,

    O’m calon ufuddhaf, Yn uniawn rhodio wnaf.

  3. 3. Mor hoff gen i yw dy breswylfa di,

    Ac ynddi, cerdded gaf; glân yw fy nwylo i.

    Mewn diolchgarwch, canu’n uchel braf

    Ac adrodd dy ysblander ger dy allor wnaf.

    (CYTGAN)

    Ymlaen yr af, Yn llwybrau Duw parhaf,

    O’m calon ufuddhaf, Yn uniawn rhodio wnaf.

(Gweler hefyd Salm 25:2.)