Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 36

Gwarchodwn Ein Calonnau

Gwarchodwn Ein Calonnau

(Diarhebion 4:23)

  1. 1. Gwarchodwn ein calonnau ni—

    Ffynhonnell bywyd yw.

    Rhag llwybrau pechod cadwn draw—

    Ein tywys ni mae Duw.

    Yn hytrach na dibynnu ar

    Deimladau sy’n llawn twyll,

    Doethineb sy’n ein harwain ni.

    Ein llywio gawn gan bwyll.

  2. 2. Gwarchodwn ein calonnau ni

    Wrth droi at Dduw, ein Caer,

    A rhannu ein pryderon ni

    Bob dydd mewn gweddi daer.

    O’n gwirfodd ufuddhawn yn llwyr,

    Parhawn i feithrin ffydd,

    Datblygwn galon deyrngar sy’n

    Ei blesio Ef bob dydd.

  3. 3. Gwarchodwn ein calonnau ni

    Rhag pethau sy’n amhur

    Drwy ganolbwyntio ar yr hyn

    Sy’n lân, sy’n iawn, sy’n wir.

    Yr hyn yr ydym y tu mewn,

    Ein calon deyrngar, driw

    Sy’n bwysig iawn, sydd werth y byd,

    Sy’n hardd yng ngolwg Duw.

(Gweler hefyd Salm 34:1; Phil. 4:8; 1 Pedr 3:4.)