CÂN 38
Bydd Ef yn Dy Gryfhau
-
1. Roedd rheswm da gan Dduw dros ddod â’r gwir i ti,
O’r t’wyllwch i’w oleuni ef y dest;
Fe welodd Duw’r dyhead yn dy galon di
I’w ’nabod ef yn well, a’r ymchwil wnest.
Yn ffyddlon i’th gysegriad byddi di,
A chyson fydd ei ofal drosot ti.
(CYTGAN)
Jehofa Dduw a’th brynodd,
a’r pris oedd perffaith waed.
Yn sicr, gwerthfawr wyt,
a’i gariad gei’n ddi-baid.
Ei ofal gei yn gyson
drwy bob adfyd a gwae,
I gadarnhau dy ffydd,
i’th adfer, a’th gryfhau.
-
2. Ei Fab ei hun y rhoddodd Duw i’th achub di,
Gwir garedigrwydd anhaeddiannol yw.
Os na wnaeth ddim dal ’n ôl rhag rhoi ei annwyl Fab,
Paid â phryderu dim, cei help gan Dduw.
Dy ffydd, a’th gariad ato, Duw a’u gwêl,
A llwyddo wnei, â’i nerth ef, doed a ddêl.
(CYTGAN)
Jehofa Dduw a’th brynodd,
a’r pris oedd perffaith waed.
Yn sicr, gwerthfawr wyt,
a’i gariad gei’n ddi-baid.
Ei ofal gei yn gyson
drwy bob adfyd a gwae,
I gadarnhau dy ffydd,
i’th adfer, a’th gryfhau.
(Gweler hefyd Rhuf. 8:32; 14:8, 9; Heb. 6:10; 1 Pedr 2:9.)