Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 40

I Bwy Rydyn Ni’n Perthyn?

I Bwy Rydyn Ni’n Perthyn?

(Rhufeiniaid 14:8)

  1. 1. Pwy biau’ch calon chi?

    I ba dduw yr ufuddhewch?

    Yr hwn gaiff eich bryd, eich meistr yw,

    Ac yn ddiau, efe yw’ch duw.

    Ni fedrwch ryngu bodd

    Jehofa a duw y byd,

    Na charu y ddau, y gwir efo’r gau,

    Na’u moli ar yr un pryd.

  2. 2. Pwy biau’ch calon chi?

    Pa dduw sy’n rheoli’ch byw?

    Dewiswch yn awr heb oedi’n hir.

    Rhaid dewis rhwng y gau a’r gwir.

    Ai Cesar y byd hwn

    Sy’n arwain eich byw bob dydd?

    Neu a ydyw Duw yn llywio eich byw?

    Rhaid dewis dangos eich ffydd.

  3. 3. Pwy biau ’nghalon i?

    Jehofa Dduw biau hi.

    F’adduned fe dalaf i fy Nuw.

    Addolaf ef—fy newis yw.

    Duw dalodd bridwerth drud

    Â’i Fab—y pris uchaf sydd.

    Dwi’n perthyn i Dduw, yn farw neu’n fyw,

    A’i glod a ganaf bob dydd.

(Gweler hefyd Jos. 24:15; Salm 116:14, 18; 2 Tim. 2:19.)