CÂN 41
Plîs Gwrando ar Fy Ngweddi
(Salm 54)
-
1. O Dduw, fy Nhad, plîs clyw ’ngeiriau i.
F’annwyl Jehofa, rho glust i’m cri.
Ti sydd Oruchaf. D’enw, da yw.
(CYTGAN)
Plîs clyw fy ngweddi. Plîs gwrando Dduw.
-
2. Diolch am gynnal f’enaid a’m ffydd.
Diolch am d’ofal tyner bob dydd.
Diolch am ddangos sut dylwn fyw.
(CYTGAN)
Diolch am wrando arnaf i Dduw.
-
3. Dduw, yn dy nerth, d’ewyllys a wnaf.
Rho help i mi os gweli di’n dda.
Pan alwaf arnat, Arglwydd, plîs clyw.
(CYTGAN)
Yn dy drugaredd, plîs gwrando Dduw.
(Gweler hefyd Ex. 22:27; Salm 106:4; Iago 5:11.)