Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 42

Gweddi Gwas Jehofa

Gweddi Gwas Jehofa

(Effesiaid 6:18)

  1. 1. Ein nefol Dad, ein Harglwydd Jehofa,

    Drwy’r byd i gyd, dy enw di, sancteiddia.

    Dy deyrnas di, fe ddaw yn ddi-ffael,

    Ti sydd yn peri, ti sy’n amseru.

    Dduw, plîs clyw ein gweddi daer,

    Ffyddlon ydwyt ti i’th Air.

  2. 2. Annwyl Jehofa, diolch o galon

    Am roi i ni fendithion ar fendithion.

    Popeth sydd gennym, daw o dy law,

    Ti rydd wybodaeth, ti rydd ddirnadaeth.

    Yn d’oleuni llawenhawn,

    A phob dydd, dy ddiolch wnawn.

  3. 3. Yn y byd hwn, cawn lu o drafferthion.

    Dduw, arnat ti y bwriwn ein pryderon.

    Dro ar ôl tro fe drown atat ti.

    Ti sy’n cysuro, ti sy’n esmwytho.

    Plîs rho glust i’n gweddi ni.

    Gwnawn ein gorau glas i ti.

(Gweler hefyd Salm 36:9; 50:14; Ioan 16:33; Iago 1:5.)