Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 43

Gweddi o Ddiolch

Gweddi o Ddiolch

(Salm 95:2)

  1. 1. Annwyl Jehofa, ein Duw bendigedig,

    Diolch am wrando ar ein gweddi ni.

    Canwn dy foliant, a chanwn ein diolch

    Am dy ddaioni a’th fwyn gariad di.

    Diolch am dalu y pridwerth i’n hachub.

    Diolch am ddanfon dy fab aton ni.

    Bob dydd, heb eithriad, gwnawn gamgymeriadau.

    Maddau i ni ein pechodau, Dduw, plîs.

  2. 2. Diolch am ddangos dy gariad di inni.

    Diolch am ein denu ni atat ti.

    Diolch am ddangos y ffordd i’th addoli.

    Diolch am dywallt bendithion di-rif.

    Diolch am d’ysbryd, sy’n rhoi inni ddewrder.

    Diolch o’r galon am ein heddwch ni.

    Diolch am ddangos y ffordd i hapusrwydd.

    Diolch! O! Diolch! Mawr ddiolch i ti!

(Gweler hefyd Salm 65:2, 4, 11; Phil. 4:6.)