CÂN 45
Myfyrdod Fy Nghalon
(Salm 19:14)
-
1. Dduw, boed i’m geiriau i bob dydd,
A myfyrdodau nghalon i,
Fy nghadw’n gadarn yn y ffydd
A dod â phleser mawr i ti.
Wrth orwedd ar fy ngwely i,
Wrth aflonyddu yn y nos,
Dwi’n troi fy meddwl atat ti,
At bethau da sy’n haeddu clod.
-
2. Myfyriaf ar yr hyn sy’n iawn,
Yn anrhydeddus ac yn wir.
Derbyniaf heddwch o dy law
Wrth gofio’r hyn sy’n deg a phur.
Mor ddwfn yw dy feddyliau di,
Mor werthfawr ydynt oll i mi.
Fy Nuw, fy Nghraig, archwilia fi
A myfyrdodau nghalon i.
(Gweler hefyd Salm 49:3; 63:6; 139:17, 23; Phil. 4:7, 8; 1 Tim. 4:15.)