Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 47

Gweddïa ar Jehofa Bob Dydd

Gweddïa ar Jehofa Bob Dydd

(1 Thesaloniaid 5:17)

  1. 1. Ar Dduw Jehofa gweddïa yn daer.

    Ffrind i ti ydyw, gwrandawa bob gair.

    Tywallt dy galon â’th bryder i gyd,

    Ynddo cei loches rhag pwysau y byd.

    Ar Dduw gweddïa bob dydd.

  2. 2. Ar Dduw gweddïa, rho ddiolch am fyw,

    Deisyf faddeuant, ein cyffes a glyw.

    Gofyn am gymorth i gadw yn driw—

    Er mai llwch ydym, yn gwrando mae Duw.

    Ar Dduw gweddïa bob dydd.

  3. 3. Amlach na pheidio problemau a ddaw.

    Paid ti â phoeni, help Duw sydd gerllaw.

    Tro at Jehofa, mor agos yw ef,

    Arno dibynnwn, ei law ef sy’n gref.

    Ar Dduw gweddïa bob dydd.

(Gweler hefyd Salm 65:5; Math. 6:9-13; 26:41; Luc 18:1.)