Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 50

Fy Ngweddi Wrth Ymgysegru

Fy Ngweddi Wrth Ymgysegru

(Mathew 22:37)

  1. 1. Rhof yn llwyr fy nghalon i,

    Caru rwyf dy gyfraith di.

    I’th orchmynion ufuddhaf,

    Ymhyfrydu ynot gwnaf.

  2. 2. Rhof fy nerth yn llwyr i ti,

    F’enaid, a’m holl feddwl i.

    Rhof i ti fy llais a’m cân,

    Canu wnaf i’th enw glân.

  3. 3. Gwneud d’ewyllys di a wnaf,

    Dan d’arweiniad di parhaf.

    Rhof bob dim sydd gennyf fi,

    Ymgysegru rwyf i ti.

(Gweler hefyd Salm 40:8; Ioan 8:29; 2 Cor. 10:5.)