Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 59

Dewch, Molwch Jah!

Dewch, Molwch Jah!

(Salm 146:2)

  1. 1. Dewch, Molwch Jah

    Ein nefol Dad,

    Ef sy’n rhoi bywyd a phopeth sy’n dda.

    Canaf ei glod

    Tra byddaf byw,

    Ffyddlon, trugarog, a llawn cariad yw.

    Dewch i gydganu ein moliant i Dduw.

  2. 2. Dewch, Molwch Jah

    A llawenhau,

    Ateb ein gweddi y mae Duw’n ddiau.

    Â’i nerthol fraich

    Rhydd rym i’r gwan,

    Codi ein calon y mae’r ysbryd glân.

    Rhowch fawl i Dduw a’i glodfori â chân.

  3. 3. Haleliwia!

    Duw cyfiawn yw.

    Canwn yn llawen ein moliant i Dduw.

    Cysur a gawn,

    Tegwch fwynhawn,

    Daw, o’i drysordy, fendithion i bawb.

    Dewch, Molwch Jah! Da yw rhoi iddo’r mawl.

(Gweler hefyd Salm 94:18, 19; 145:21; 147:1; 150:2; Act. 17:25.)