CÂN 60
Mae Eu Bywydau yn y Fantol
(Eseciel 3:17-19)
-
1. Hon yw blwyddyn ffafr Duw
i genhedloedd dynol ryw.
Rhaid i bawb ddod i wybod
bod dydd llid Duw ar ddod.
(CYTGAN)
Eu bywyd nhw a’n bywyd ni
Sydd yn y fantol, yn wir.
Eu bywyd cânt os ufuddhânt,
Ac felly seinio rhybudd rhaid,
Yn ddi-baid.
-
2. Fel negeswyr y gwir
gofyn wnawn i bawb a glyw
Ddod i wrando a dysgu,
ac ufuddhau i Dduw.
(CYTGAN)
Eu bywyd nhw a’n bywyd ni
Sydd yn y fantol, yn wir.
Eu bywyd cânt os ufuddhânt,
Ac felly seinio rhybudd rhaid,
Yn ddi-baid.
(PONT)
Mae’n bwysig, mae’n hanfodol,
I bobl wrando er mwyn byw.
Fe’u dysgwn ac fe rannwn
Wybodaeth am Jehofa Dduw.
(CYTGAN)
Eu bywyd nhw a’n bywyd ni
Sydd yn y fantol, yn wir.
Eu bywyd cânt os ufuddhânt,
Ac felly seinio rhybudd rhaid,
Yn ddi-baid.
(Gweler hefyd 2 Cron. 36:15; Esei. 61:2; Esec. 33:6; 2 Thes. 1:8.)