Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 64

Cydweithio yn Llawen yn y Cynhaeaf

Cydweithio yn Llawen yn y Cynhaeaf

(Mathew 13:1-23)

  1. 1. Mae’r cyfnod cynhaeaf yn brysur,

    Mae pawb wrthi’n gweithio yn frwd.

    Cawn ninnau ymuno â’r gweithwyr

    Yn llawen, yn wynder y cnwd.

    Cawn weithio ynghyd â’r angylion,

    Ac Iesu yn arwain y maes.

    Wrth weithio yn eiddgar â’n brodyr cawn

    Lawenydd a fydd yn barhaus.

  2. 2. Ein cariad at Dduw a’n cymydog

    Sy’n gwneud i ni fwrw ymlaen.

    Heb lusgo ein traed awn i’r caeau,

    Heb oedi pregethwn y gair.

    Cydweithiwn â Duw wrth lafurio,

    Llawenydd gawn ganddo wrth hau.

    Mae gwaith y cynhaeaf am ddod i ben—

    I’r diwedd gwnawn ddyfalbarhau.