Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 71

Byddin Jehofa Ydym!

Byddin Jehofa Ydym!

(Effesiaid 6:11-14)

  1. 1. Byddin Jehofa ydym,

    Crist sydd ar y blaen.

    Satan sydd yn ein herbyn—

    Er hyn, camwn ymlaen.

    Yn ddi-ofn, heb ildio dim,

    Drwy’r holl fyd yr awn.

    Â’n cyd-filwyr ffyddlon,

    Yn y maes parhawn.

    (CYTGAN)

    Byddin Jehofa ydym,

    Iesu yw ein Llyw.

    Braint yw tystiolaethu

    Am lywodraeth Duw.

  2. 2. Gweision Jehofa ydym,

    Yn ei waith parhawn.

    Am ddefaid sy’n golledig,

    Chwilio’n ddyfal a wnawn.

    Bwydo wnawn y trist a’r gwan

    Ag ysbrydol faeth.

    Rhaid dyfalbarhau a

    Galw’n ôl sawl gwaith!

    (CYTGAN)

    Byddin Jehofa ydym,

    Iesu yw ein Llyw.

    Braint yw tystiolaethu

    Am lywodraeth Duw.

  3. 3. Byddin Jehofa ydym,

    Dan arweiniad Crist.

    Gan Dduw y cawn arfogaeth,

    Gwisgwn bob rhan o’r wisg.

    Doeth a chraff yw dangos pwyll

    Er mwyn dal ein tir.

    Wrth wynebu peryg,

    Glynwn at y gwir.

    (CYTGAN)

    Byddin Jehofa ydym,

    Iesu yw ein Llyw.

    Braint yw tystiolaethu

    Am lywodraeth Duw.

(Gweler hefyd Phil. 1:7; Philem. 2.)