Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 72

Gwneud Gwirionedd y Deyrnas yn Hysbys

Gwneud Gwirionedd y Deyrnas yn Hysbys

(Actau 20:20, 21)

  1. 1. Fe roddodd Duw oleuni’r Gwir,

    A’n llwybr ddaeth yn llachar glir.

    Gwelsom sut y dylem fyw,

    A sut i wneud ewyllys Duw.

    Jehofa rodd ei lewyrch i

    Esbonio’i Deyrnas ef i ni.

    Braint ei wasanaethwyr yw

    Cael gogoneddu enw sanctaidd Duw.

    O ddrws i ddrws, o dŷ i dŷ,

    Ar fferm cefn gwlad ac ar y stryd,

    Dangoswn sut a pham y mae’r,

    Gwirionedd yn ein gwir ryddhau.

    Wrth inni wneud ein gorau glas

    I dystiolaethu ym mhob gwlad,

    Gogoneddu Duw â sêl

    A wnawn hyd ben y llwybr, doed a ddêl.

(Gweler hefyd Jos. 9:9; Esei. 24:15; Ioan 8:12, 32.)