CÂN 73
Dyro Inni Hyder
-
1. Tystiolaethwn yn dy enw
A phregethwn trwy’r holl fyd,
Ond mae llu o wrthwynebwyr
Yn ein bygwth o bob tu.
Clyw ein gweddi, clyw ein llef,
Rydym yn erfyn arnat Ti.
Am dy ysbryd rydym yn ymbil,
Dduw Jehofa, rho’r nerth i ni.
(CYTGAN)
Dyro hyder i dy dystion,
Dyro inni galon lew,
Dyro’r gallu i dy weision
I gyhoeddi d’Air yn ddewr.
Wrth i Armagedon nesáu,
Yn dy nerth di gwnawn ymgryfhau.
Dyro hyder i dy dystion.
Dduw, clyw ein cri.
-
2. Digon hawdd yw gwangalonni,
Dim ond llwch yw eiddil ddyn.
Edrych nawr ar y bygythwyr
Sy’n ein herlid a’n cam-drin.
Mae dy addewidion, Dduw,
Yn gwneud ein calon wan yn gryf,
Ac yn hytrach na chael ein llethu,
Yn ddi-ofn, pregethwn yn hy.
(CYTGAN)
Dyro hyder i dy dystion,
Dyro inni galon lew,
Dyro’r gallu i dy weision
I gyhoeddi d’Air yn ddewr.
Wrth i Armagedon nesáu,
Yn dy nerth di gwnawn ymgryfhau.
Dyro hyder i dy dystion.
Dduw, clyw ein cri.
(Gweler hefyd 1 Thes. 2:2; Heb. 10:35.)