Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 74

Ymunwch yng Nghân y Deyrnas!

Ymunwch yng Nghân y Deyrnas!

(Salm 98:1)

  1. 1. Fe ganwn lawen gân am iachawdwriaeth,

    I foli’n Crëwr a’i weithredoedd ef.

    Mae’r geiriau’n hybu gobaith a theyrngarwch.

    Dewch! Dysgwch alaw’r gorawenus lef:

    (CYTGAN)

    ‘Dewch, molwch Dduw! Addolwch Ef!

    Ei Fab sy’n Frenin yn y nef!

    Dewch! Canwch gân am Deyrnas Dduw Jehofa.

    Ymgrymwch ger ei fron a’i foli Ef.’

  2. 2. Wrth ganu yn y côr fe hysbysebwn

    Fod Iesu nawr yn frenin yn y nef.

    Ei frodyr hefyd, cenedl sy’n sanctaidd,

    Sy’n canu’r gytgan hon i’w foli ef:

    (CYTGAN)

    ‘Dewch, molwch Dduw! Addolwch Ef!

    Ei Fab sy’n Frenin yn y nef!

    Dewch! Canwch gân am Deyrnas Dduw Jehofa.

    Ymgrymwch ger ei fron a’i foli Ef.’

  3. 3. Apelgar ydyw’n harmoni a’n cytgord.

    Côr cymysg sy’n cydganu fel un llais.

    Gall unrhyw un, sy’n fwyn, feistroli’r cywair

    A’r dôn i’w hatsain allan yn y maes:

    (CYTGAN)

    ‘Dewch, molwch Dduw! Addolwch Ef!

    Ei Fab sy’n Frenin yn y nef!

    Dewch! Canwch gân am Deyrnas Dduw Jehofa.

    Ymgrymwch ger ei fron a’i foli Ef.’

(Gweler hefyd Salm 95:6; 1 Pedr 2:9, 10; Dat. 12:10.)