Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 75

“Dyma Fi! Anfon Fi!”

“Dyma Fi! Anfon Fi!”

(Eseia 6:8)

  1. 1. Ble heddiw gwelir parch at Dduw?

    Ar drai mae ffydd y ddynol ryw.

    ‘Duw, nid yw’n bod!’ a fynna rhai.

    D’wed eraill, ‘Arno fo mae’r bai!’

    Amddiffyn enw Duw, pwy wna?

    I ganu moliant Duw, pwy â?

    (CYTGAN)

    ‘Dduw, dyma fi! O anfon fi!

    Cyhoeddi wnaf dy glod a’th fri.

    Nid oes anrhydedd mwy na hyn oll.

    Dyma fi! O anfon fi!’

  2. 2. Ar gynnydd mae’r di-gred, di-Dduw,

    A chwyno maent, ‘Un araf yw!’

    Addola eraill ddelwau pren,

    A’u Cesar gosod maent yn ben.

    Pwy â, a phwy a gwyd ei lais

    I seinio’r rhybudd yn y maes?

    CYTGAN)

    ‘Dduw, dyma fi! O anfon fi!

    Rhoi’r rhybudd wnaf yn ddewr, yn hy.

    Nid oes anrhydedd mwy na hyn oll.

    Dyma fi! O anfon fi!’

  3. 3. Wrth weld drygioni yn dwysáu,

    Galaru mae calonnau’r rhai

    Sy’n chwilio am dangnefedd pur,

    Sy’n ceisio dod o hyd i’r gwir.

    Pwy â â gair cysurus Duw

    I leddfu ac esmwytho’u briw?

    (CYTGAN)

    ‘Dduw, dyma fi! O anfon fi!

    I ddysgu’r addfwyn rai af i.

    Nid oes anrhydedd mwy na hyn oll.

    Dyma fi! O anfon fi!’

(Gweler hefyd Salm 10:4; Esec. 9:4.)