CÂN 77
Goleuni Mewn Byd Tywyll
-
1. Tywyll fyd, afreolus fyd,
Sydd heb weld golau’r wawr.
Pefrio pur, haul y newydd ddydd
Sy’n ein harwain yn awr.
(CYTGAN)
Gloyw yw’r goleuni,
Disglair fel haul canol dydd;
Goleua’r tywyll fyd.
Llachar yw ei lewyrch,
Gwelwn yfory yn glir,
A’r nos yn ddydd.
-
2. Golau’r gwir, gobaith newydd fyd
Sy’n eu deffro o’u cwsg.
Hon yw’r awr, dyma’r rhiniog nawr,
Fory sydd wrth y drws.
(CYTGAN)
Gloyw yw’r goleuni,
Disglair fel haul canol dydd;
Goleua’r tywyll fyd.
Llachar yw ei lewyrch,
Gwelwn yfory yn glir,
A’r nos yn ddydd.
(Gweler hefyd Ioan 3:19; 8:12; Rhuf. 13:11, 12; 1 Pedr 2:9.)