Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 78

Dysgu Gair Duw i Eraill

Dysgu Gair Duw i Eraill

(Actau 18:11)

  1. 1. Wrth ddysgu eraill am Air Duw,

    Llawenydd mawr a gawn.

    Gan Dduw cawn fuddion heb eu hail,

    A’i fendith a fwynhawn.

    Cawn efelychu dull Mab Duw,

    Â chariad dysgodd ef.

    Ein cariad fydd yn helpu eraill

    I ’nabod Duw y nef.

  2. 2. Wrth ddysgu eraill am Air Duw,

    Bydd ein hesiampl dda

    O wneud daioni’n dysgu gwers

    O les, hir ei pharhad.

    Gwneud diwyd ymchwil byddwn ni

    I gadw at y gwir.

    Ac o drysordy ein calonnau

    Dysgeidiaeth gânt sy’n bur.

  3. 3. Er mwyn bod yn athrawon da,

    Gan Dduw cawn ysbryd glân.

    Os gofyn wnawn, a chyson yw

    Â’i fwriad, gwrando wna.

    Â chariad, dysgu wnawn Gair Duw,

    A charu wnânt y gwir.

    Myfyrwyr Gair Duw heddiw fydd yn

    Athrawon cyn bo hir!

(Gweler hefyd Salm 119:97; 2 Tim. 4:2; Titus 2:7; 1 Ioan 5:14.)