Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 81

Bywyd yr Arloeswr

Bywyd yr Arloeswr

(Pregethwr 11:6)

  1. 1. Yn y bore bach gwyn cyn daw toriad y wawr,

    Er mai trwm yw ein llygaid

    a chynnar yw’r awr, allan awn.

    Ar ôl gweddi, awn i gyfarch pawb ar y stryd—

    Rhai yn oedi ond eraill

    yn troedio’n ddi-hid—ond parhawn.

    (CYTGAN)

    Dyma’r bywyd i mi!

    Caf fendithion di-rif,

    A chaf ddangos fy nghariad at Dduw.

    Yn yr heulwen a’r glaw,

    Drwy beth bynnag a ddaw,

    Gallaf ddangos mai i ti fy Nuw rwyf yn byw.

  2. 2. Ar ôl machlud yr haul, pan orweddwn i lawr,

    Er mai trwm yw ein llygaid

    a hwyr ydyw’r awr, llawenhawn.

    Teimlad gorau’n y byd yw cael gorffen bob dydd

    Drwy roi diolch i Dduw

    am y cyfle i fyw bywyd llawn.

    (CYTGAN)

    Dyma’r bywyd i mi!

    Caf fendithion di-rif,

    A chaf ddangos fy nghariad at Dduw.

    Yn yr heulwen a’r glaw,

    Drwy beth bynnag a ddaw,

    Gallaf ddangos mai i ti fy Nuw rwyf yn byw.

(Gweler hefyd Jos. 24:15; Salm 92:2; Rhuf. 14:8.)