Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 88

Dysga Dy Ffyrdd i Mi

Dysga Dy Ffyrdd i Mi

(Salm 25:4)

  1. 1. Jehofa ein Duw, dyma ni oll ynghyd,

    I elwa ar d’eiriau adfywiol.

    Mae d’Air di yn lamp i’n traed ac i’n llwybr,

    Dy Air di yw sail addysg ddwyfol.

    (CYTGAN)

    Dduw, arwain fi, a dysg dy ffyrdd i mi,

    Dy ddilyn wnaf er mwyn dy blesio di.

    Gad i mi gerdded yng ngoleuni’r gwir,

    A gwna dy gyfraith imi’n bleser pur.

  2. 2. Cysurlon yw’th ddeddfau, amlygant i ni

    Ddoethineb aruchel d’ofynion.

    Dy farniad sy’n deg, dy gyfraith sy’n gyfiawn,

    Rhyfeddol yw’th Air a’th orchmynion.

    (CYTGAN)

    Dduw, arwain fi, a dysg dy ffyrdd i mi,

    Dy ddilyn wnaf er mwyn dy blesio di.

    Gad i mi gerdded yng ngoleuni’r gwir,

    A gwna dy gyfraith imi’n bleser pur.

(Gweler hefyd Ex. 33:13; Salm 1:2; 119:27, 35, 73, 105.)