CÂN 96
Llyfr Duw—Trysor Yw
(Diarhebion 2:1)
-
1. Mae yna lyfr, ac yn ei dudalennau
Mae gobaith byd o hedd i ddynol ryw.
Y mae ei eiriau’n medru treiddio’r galon—
Mae neges Duw yn rymus ac yn fyw.
Y trysor gwerthfawr hwn yw’r Beibl Sanctaidd,
Gwir euraidd anrheg yw gan Dduw i ddyn.
Gan ysbryd glân cymhellwyd dynion ffyddlon
I ysgrifennu’r cyfan yn gytûn.
-
2. Darllenwn ynddo hanes creadigaeth—
Am Dduw yn creu’r bydysawd drwy ei rym,
Am y dyn cyntaf, Adda, dyn heb bechod,
A sut a pham y collodd ef bob dim.
Mae hanes angel, twyllwr ac enllibiwr,
A heriodd hawl sofraniaeth Duw ei hun.
O hyn daeth inni bechod, poen, a dagrau,
Ond bydd Jehofa Dduw yn cario’r dydd.
-
3. Ac felly, rheswm sydd dros fod yn llawen,
Fe glyw y sawl a rydd i’w Air ei glust
Y newydd da am Deyrnas Dduw Jehofa
Ac am ei Frenin cyfiawn, Iesu Grist.
Nid oes dim un llyfr arall yn bodoli
Sy’n cynnig gobaith i holl ddynol ryw.
Mae’n llyfr arbennig, gwerthfawr, ac unigryw,
Mae’n amhrisiadwy—Trysor yw gan Dduw.
(Gweler hefyd 2 Tim. 3:16; 2 Pedr 1:21.)