Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 97

Mae Bywyd yn Ddibynnol ar Air Duw

Mae Bywyd yn Ddibynnol ar Air Duw

(Mathew 4:4)

  1. 1. Er ein lles byth a hefyd yw

    Popeth sydd yng Ngair Duw.

    Mae’n llawn cyngor sydd heb ei ail,

    Llyfr fel dim arall yw.

    Derbyn heddwch a gobaith gawn,

    Dysgwn ffordd well o fyw.

    (CYTGAN)

    Nid ar fara yn unig mae

    Pobl dduwiol yn byw,

    Ond yn hytrach dibynnwn ar

    Bopeth sydd yng Ngair Duw.

  2. 2. Yng Ngair Duw medrwn ddarllen am

    Bobl o’r oes a fu,

    A sut roeddent yn ddoeth a chall,

    Ffyddlon, dewr ac yn hy.

    Mae eu ffydd yn ein hannog ni—

    Gwelwn batrwm o fyw.

    (CYTGAN)

    Nid ar fara yn unig mae

    Pobl dduwiol yn byw,

    Ond yn hytrach dibynnwn ar

    Bopeth sydd yng Ngair Duw.

  3. 3. Ddydd wrth ddydd, darllen wnawn Gair Duw—

    Bendith ddwyfol fwynhawn,

    A phan ddown o dan bwysau mawr,

    Nerth a chysur a gawn.

    Yn ein calon, trysori wnawn

    Geiriau bywiol ein Duw.

    (CYTGAN)

    Nid ar fara yn unig mae

    Pobl dduwiol yn byw,

    Ond yn hytrach dibynnwn ar

    Bopeth sydd yng Ngair Duw.

(Gweler hefyd Jos. 1:8; Rhuf. 15:4.)