Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 99

Miloedd ar Filoedd o Frodyr

Miloedd ar Filoedd o Frodyr

(Datguddiad 7:9, 10)

  1. 1. Miloedd ar filoedd o frodyr,

    Rydym yn dyrfa fawr.

    Ni fedr neb ein cyfri,

    Fwyfwy cynyddu wnawn.

    Miloedd ar filoedd ydym,

    Tyrfa aruthrol fawr.

    Down o bob cenedl, llwyth, ac iaith

    I foli’n Brenin Mawr.

  2. 2. Miloedd ar filoedd o frodyr

    Gyda’r newyddion da.

    “Heddwch” yw’r neges hyfryd,

    “Duw, ei ewyllys wna.”

    Er gwaethaf anawsterau,

    Tystio wnawn yn ddi-drai.

    Cawn ein hadfywio gan Iesu Grist,

    Gorffwys gawn dan ei iau.

  3. 3. Miloedd ar filoedd o frodyr,

    Drwy’r byd, bob nos a dydd,

    Yn gwasanaethu’n llawen—

    Gwelwn eu cyson ffydd.

    Rydym yn ein miliynau,

    Teulu unigryw yw.

    Braint tra syfrdanol yw cymryd rhan—

    Ni yw cyd-weithwyr Duw.

(Gweler hefyd Esei. 52:7; Math. 11:29; Dat. 7:15.)