Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 100

Rhowch Groeso Iddynt i’ch Cartref

Rhowch Groeso Iddynt i’ch Cartref

(Actau 17:7)

  1. 1. Am wers mewn lletygarwch trown at ein Tad—

    O’i gariad, rhydd Jehofa i’r drwg a’r da,

    Mae Duw’n rhoi haul a glaw,

    agored yw ei law,

    Mae’n rhoi i bawb yn hael, ac am ddim.

    Cawn ninnau roi yn hael, gweithred cariad yw.

    Mae rhoi i’r tlawd fel benthyg i’n hannwyl Dduw.

    O’n Duw, ein nefol Dad,

    y daw eu hesmwythâd—

    Drwy law garedig rhywun fel ni.

  2. 2. Rhown help i’r rhai mewn angen, a phwy a ŵyr,

    Ein cariad a all ddenu rhai at y gwir.

    Dim ots beth yw eu hiaith,

    eu lliw, na’u hil ychwaith,

    Rhoi croeso wnawn, a mawr les a wna.

    Fel Lydia, d’wedwn, “Dewch i fy nghartref i,

    Dewch mewn a gorffwys. Dewch, bwytwch gyda ni.”

    Rhoi croeso cynnes wnawn,

    i efelychu’n llawn

    Drugaredd mawr Jehofa ein Tad.