Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 102

Helpu’r Rhai Gwan

Helpu’r Rhai Gwan

(Actau 20:35)

  1. 1. Amlwg yw’n gwendidau ni

    I Jehofa Dduw.

    Er hyn, mae’n ein caru ni,

    Tad tosturiol yw.

    Ei gariad leddfa’n gwae,

    Ei nerth sy’n ein cryfhau.

    Cysur ydy cariad, mae’n

    Eli at bob briw.

  2. 2. Crynu mae pen-gliniau’r rhai

    Sydd yn wan eu ffydd.

    Gyda gair o gysur cawn

    Wneud y gwan yn gryf.

    Os cydymdeimlo wnawn

    Â’n brawd a’n chwaer drist lawn,

    Sychu’r dagrau hallt a gawn

    Oddi ar eu grudd.

  3. 3. Cynnig help ac estyn llaw—

    Codi calon wna.

    Annog â charedig air—

    Dyna ffisig da.

    Camu i’r adwy wnawn,

    Cario eu beichiau gawn.

    Dwylo llesg y gwan gryfhawn,

    Buan cânt wellhad.

(Gweler hefyd Esei. 35:3, 4; 2 Cor. 11:29; Gal. 6:2.)