CÂN 103
Bugeiliaid—Dynion yn Rhoddion
-
1. I ni y mae Jehofa yn rhoi
Dynion, bugeiliaid mwyn.
Gwarchod Ei braidd a’i arwain a wnânt,
Porthant Ei annwyl ŵyn.
(CYTGAN)
Rhoddion gan Dduw yw’n bugeiliaid teg,
Gwŷr dibynadwy a thriw.
Gwarchod y praidd yn gariadlon wnânt.
Carwn ein ‘rhoddion’ gan Dduw.
-
2. Gofal trugarog roddant i’r praidd,
Teimlant ein poen i’r byw.
Codant ein calon â’r Sanctaidd Air,
Rhwymo a wnânt ein briw.
(CYTGAN)
Rhoddion gan Dduw yw’n bugeiliaid teg,
Gwŷr dibynadwy a thriw.
Gwarchod y praidd yn gariadlon wnânt.
Carwn ein ‘rhoddion’ gan Dduw.
-
3. Cyngor a roddant, cysgod a gawn,
Ceisiant gryfhau ein ffydd.
Dilyn eu cyfarwyddyd a wnawn,
Elwa a wnawn bob dydd.
(CYTGAN)
Rhoddion gan Dduw yw’n bugeiliaid teg,
Gwŷr dibynadwy a thriw.
Gwarchod y praidd yn gariadlon wnânt.
Carwn ein ‘rhoddion’ gan Dduw.
(Gweler hefyd Esei. 32:1, 2; Jer. 3:15; Ioan 21:15-17; Act. 20:28.)