Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 105

“Cariad Ydy Duw”

“Cariad Ydy Duw”

(1 Ioan 4:7, 8)

  1. 1. Dysgu wnaethon ni am gariad

    Oddi wrth Jehofa Dduw.

    Dangos cariad mae yn berffaith,

    Gan mai ef, gwir gariad yw.

    Ceisiwn ddangos cariad tebyg,

    Efelychwn gariad Crist.

    Ym mhob gair ac ym mhob gweithred

    Dangos cariad wnawn o hyd.

  2. 2. Cariad Duw sydd yn ein hannog,

    Dangos cariad at bawb gwnawn.

    A phan welwn frawd mewn angen,

    Yn gariadus, ato ’r awn.

    Amyneddgar ydyw cariad,

    Gyda’r gwir mae’n llawenhau.

    Mae’n gobeithio, ac yn credu,

    A hyd byth y gwnaiff barhau.

  3. 3. Heb ddal dig, heb genfigennu,

    A heb frolio, ceisiwn fyw.

    Ond does dim rhaid digalonni,

    O’i fawr gariad, help rydd Duw.

    Caru wnawn frawd a chymydog,

    Carwn bawb o ddynolryw.

    Dilyn wnawn y ffordd o gariad

    Gan mai cariad ydy Duw.