Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 106

Meithrin Rhinwedd Cariad

Meithrin Rhinwedd Cariad

(1 Corinthiaid 13:​1-8)

  1. 1. Fe geisiwn feithrin rhinweddau gwiw

    Bob dydd, bob man, ym mhob rhan o’n byw.

    O’r rhain i gyd, y pwysicaf yw

    Gwir gariad​—rhinwedd glân ysbryd Duw.

    A oes ffydd gennym i symud bryn?

    Heb gariad, nid ydyw’n dda i ddim!

    Rhaid gweu gwir gariad drwy bopeth wnawn,

    O’r edau hyn, gwisg o gariad gawn.

  2. 2. Mae’n amyneddgar, caredig yw,

    Nid yw’n cofnodi’r un gwall na briw.

    Mae’n anhunanol, nid yw’n dal dig,

    Cydlawenhau y mae gyda’r gwir.

    Nid ydyw’n gwylltio, gobeithio mae.

    Wrth gario beichiau, nid yw’n gwanhau.

    Bob dydd, ein cariad daw’n gryfach fyth.

    Nid ydyw cariad am ddarfod byth.