Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 112

Jehofa, Duw Heddwch

Jehofa, Duw Heddwch

(Philipiaid 4:9)

  1. 1. Tydi, Jehofa Dduw,

    Sy’n rhoi heddwch dwfn i ni,

    Felly, arnat ’dyn ni’n erfyn

    Er mwyn derbyn d’ysbryd di.

    Oherwydd aberth Crist,

    ‘Yr Un ffyddlon’ a’r ‘Un gwir,’

    Cawn fwynhau dy gyfeillgarwch—

    Profi gawn dy heddwch pur.

  2. 2. Pelydrau d’ysbryd sydd

    Yn goleuo llwybr ffydd;

    Cawn ein harwain ac ein gwarchod

    Er mor dywyll yw ein byd.

    Dduw, rho dy ysbryd di,

    A dy fendith arnom ni.

    Er y terfysg a’r rhyfela,

    Heddwch perffaith drosom sy’.

  3. 3. Dy ysbryd grymus sy’n

    Hybu hedd d’anwyliaid di;

    Yn y nef ac ar y ddaear

    Yn unedig ydym ni.

    Dy Deyrnas di a rydd

    Fyd heb ryfel cyn bo hir.

    Caiff yr addfwyn fyd o heddwch,

    A hyd byth, dangnefedd pur.

(Gweler hefyd Salm 4:8; Phil. 4:6, 7; 1 Thes. 5:23.)