Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 115

Diolch am Amynedd Duw

Diolch am Amynedd Duw

(2 Pedr 3:15)

  1. 1. Nerthol Jehofa, cyfiawn wyt ti,

    Perffaith yw dy weithredoedd di.

    Addo a wnest heddychlon fyd,

    At hyn edrychwn ’mlaen o hyd.

    Er i greulondeb lenwi ein byd,

    Gwyddwn dy fod yn gweld hyn i gyd.

    (CYTGAN)

    Dangos yr wyt amynedd mawr.

    Diolch Jehofa. Diolch yn fawr!

  2. 2. Teimlo mor hir mae milflwydd i ni,

    Ond fel un diwrnod mae i ti.

    Nid wyt yn araf; daw dy ddydd.

    Ni fydd yn hwyr; yn brydlon bydd.

    Mae yr angylion yn llawenhau

    Wrth weld mawr dyrfa’n edifarhau.

    (CYTGAN)

    Dangos yr wyt amynedd mawr.

    Diolch Jehofa. Diolch yn fawr!

(Gweler hefyd Neh. 9:30; Luc 15:7; 2 Pedr 3:8, 9.)