CÂN 117
Rhinwedd Daioni
(2 Cronicl 6:41)
-
1. O Jehofa, Duw daioni,
Sanctaidd wyt, ein nefol Dad.
Rwyt yn ffyddlon a charedig,
Dim ond ti sydd wir yn dda.
Rwyt yn dangos dy drugaredd,
Maddau inni rwyt yn hael.
Llawenhawn yn dy ddaioni,
Dy ddaioni sy’n ddi-ffael.
-
2. Ceisiwn ddangos dy ddaioni
Yn ein gweithred, yn ein gair.
Dysgu rydym o’th haelioni—
Yn ddiragfarn, traethwn d’Air.
Da yw popeth o dy ddwylo—
Ein bugeiliaid ac ein dysg.
Dy ddaioni di a’th ysbryd
Sydd yn dwyn ffrwyth yn ein mysg.
-
3. Efelychwn dy ddaioni,
Dysgu wnawn i fod yn dda
Ac i wneud beth sy’n ddaionus,
Dan ddylanwad d’ysbryd glân.
Yn ein bro, yn ein cymuned,
Yn ein teulu, gyda phawb,
Gyda’th ysbryd a dy fendith,
Dy ddaioni di fawrhawn.
(Gweler hefyd Salm 103:10; Marc 10:18; Gal. 5:22; Eff. 5:9.)