Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 120

Efelychu Addfwynder Crist

Efelychu Addfwynder Crist

(Mathew 11:28-30)

  1. 1. Crist Iesu yw’r dyn mwyaf pwysig a fu,

    Ond nid oedd uchelgais na balchder y byd

    Yn denu ei sylw—Mor addfwyn oedd ef,

    Ymrodd i ewyllys ei Dad yn y nef.

  2. 2. ‘Dewch ataf,’ medd Iesu, ‘cewch orffwys o’ch gwae,

    Gwnaf gario eich beichiau os dewch dan fy iau.’

    Ei ffafr gaiff yr addfwyn. Mor fwyn ydyw ef,

    Mor addfwyn, mor dyner, mor dirion, mor deg.

  3. 3. Â’n brodyr, parhawn i ymostwng yn llwyr.

    Meddiannu y ddaear wna’r addfwyn a’r mwyn.

    Yn wylaidd, at batrwm ein Harglwydd Crist trown.

    I fod yn fwy addfwyn, fel Iesu, ymrown.

(Gweler hefyd Diar. 3:34; Math. 5:5; 23:8; Rhuf. 12:16.)