Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 121

Rhaid Cael Hunanreolaeth

Rhaid Cael Hunanreolaeth

(Rhufeiniaid 7:14-25)

  1. 1. Rydym yn caru Jehofa ein Duw.

    Yn ufudd i’w gyfraith yr hoffwn ni fyw.

    Ond yn ein cnawd, yn brwydro yn llym,

    Mae cyfraith arall yn pwyso’i grym.

  2. 2. Daw temtasiynau i’n herio bob dydd.

    Gall gwendid ein pechod roi prawf ar ein ffydd.

    Brwydro mae’r drwg a brwydro mae’r pur.

    Cryfach na’n gwendid yw grym y Gwir.

  3. 3. Brwydrwn yn erbyn ein pechod o hyd.

    Ar hunanreolaeth y rhown ni ein bryd.

    Ennill a wnawn! Buddugol cawn fod!

    Ildio i gyfraith dda Duw yw’n nod.