Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 125

Gwyn Eu Byd y Rhai Trugarog

Gwyn Eu Byd y Rhai Trugarog

(Mathew 5:7)

  1. 1. Trugarog yw Jehofa Dduw,

    Caredig a haelfrydig yw.

    Duw hynaws ydyw, heb ei ail,

    Mae’n gwenu wrth roi inni’n hael.

    Trugarog ydyw i’r diwair,

    Gwrthoda Ef fyth weddi daer,

    Pob deisyf edifeiriol glyw,

    Bendithia Ef bob calon driw.

  2. 2. Gall baich ein bai ein gwneud yn drist,

    Ond cofiwn weddi Iesu Grist,

    Ac erfyn am drugaredd Duw—

    Un parod iawn i faddau yw.

    ‘Dduw, maddau inni,’ yw ein cri,

    ‘R un fath ag y maddeuwn ni.’

    Ac yna heddwch meddwl gawn,

    A chalon dawel a fwynhawn.

  3. 3. Trugaredd ddaw o galon hael,

    A gweld y gwan, y gwelw wael,

    A bod yn barod i wneud da,

    Yn effro i bob cyfle bach.

    Yn ddistaw ac yn dawel awn

    I estyn llaw le bynnag cawn.

    Gwobrwya Duw ein hyfryd fryd—

    Y rhai trugarog, gwyn eu byd!

(Gweler hefyd Math. 6:2-4, 12-14.)