CÂN 131
‘Yr Hyn Mae Duw Wedi’i Uno’
-
1. O! Llawen ddydd yw hwn!
O flaen eu Duw, a dyn,
Llw taer a wnaed, ac unwyd
Dau gariad nawr yn un.
(CYTGAN 1)
Addawodd y priodfab
Ei gariad ffyddlon triw.
Ni ddylai neb wahanu
Yr hyn a unodd Duw.
-
2. Gwir drysor yw Gair Duw,
Ei ddilyn wnânt bob dydd.
Rhaff deircainc sy’n eu rhwymo,
Bendithia Duw eu ffydd.
(CYTGAN 2)
Addawodd y briodferch
Ei chariad ffyddlon triw.
Ni ddylai neb wahanu
Yr hyn a unodd Duw.
(Gweler hefyd Gen. 2:24; Preg. 4:12; Eff. 5:22-33.)