CÂN 132
Nawr Rydym yn Un
-
1. Cnawd wyt o’m cnawd, rhodd wyt i mi,
Ti yw fy nghariad, tyrd ataf fi.
Duw sy’n rhoi cwmni sy’n hawddgar.
Un ydym—ti a fi.
O hyn ymlaen bendith fwynhawn,
Teulu bach dedwydd, byw’n un a gawn.
Yn un wnaeth Duw fi a’m cariad,
Byw mewn hapusrwydd wnawn.
Yn ddi-ffael, dilynwn ffordd ein Duw,
Ffordd sydd heb ei hail,
Hyn fydd i’n cariad yn sail.
Cadwn yn driw. Dyma ein nod:
Boed i’n hadduned roi iddo glod.
Cawn anrhydeddu Jehofa,
A chaf am byth dy gariad di.
(Gweler hefyd Gen. 29:18; Preg. 4:9, 10; 1 Cor. 13:8.)