CÂN 134
Ymddiriedolaeth gan Jehofa Yw Plant
(Salm 127:3-5)
-
1. Pan ddaw baban bach i’r teulu,
Gŵr a gwraig sy’n dod yn dad ac yn fam.
Mae’n etifeddiaeth gan Jehofa—
Mawr gyfrifoldeb sydd i’w rhan.
Ond mae Jehofa’n rhoi doethineb,
Ffynhonnell cariad a holl fywyd yw.
Dilyn ei gyngor wna’r rhieni,
Bendithio’r teulu yn fawr wna Duw.
(CYTGAN)
Ymddiriedolaeth gan Jehofa
Yw’r bywyd sy’n eich dwylo chi.
Gorchmynion Duw yw’r peth pwysicaf
Y gallwch ddysgu’ch plentyn cu.
-
2. Cyn eich bod yn medru dysgu
Geiriau Duw i’ch plantos bychain, mae’n rhaid
I eiriau Duw fod yn eich calon—
Rhaid gweld eich nod cyn saethu’r saeth.
Â’ch plant siaradwch am Jehofa,
Eu dysgu’n gyson rhaid o ddydd i ddydd.
Yn y dyfodol, gwerthfawrogant
Eich gofal annwyl a’ch cadarn ffydd.
(CYTGAN)
Ymddiriedolaeth gan Jehofa
Yw’r bywyd sy’n eich dwylo chi.
Gorchmynion Duw yw’r peth pwysicaf
Y gallwch ddysgu’ch plentyn cu.
(Gweler hefyd Deut. 6:6, 7; Eff. 6:4; 1 Tim. 4:16.)