CÂN 136
“Tâl Llawn” gan Jehofa
-
1. Jehofa sy’n ffyddlon—mae’n ’nabod yn iawn
Y rhai sy’n gwas’naethu yn driw.
Mae’n gweld ein hymroddiad, ein tristwch a’n siom,
O golli ein ffrindiau—y briw.
Os hyn fu dy brofiad wrth adael pob dim
Er mwyn cadw’n ffyddlon i Jah,
Paid ofni, brawdoliaeth fyd-eang a gei;
Gofalu amdanat Duw wna.
(CYTGAN)
Boed i Dduw mawr Jehofa roi i ti
Dy dâl yn llawn am dy ymroddiad pur.
Dos dan ei adain yn ddiymdroi.
Jehofa sy’n ffyddlon; Jehofa geirwir.
-
2. Fe ddaw ’falle gyfnod o bwysau i’n rhan,
Gall aros yn hir yn ein byw;
Problemau all godi sy’n anodd eu trin—
Gwanhau maent ffyddloniaid sy’n driw.
Tosturiol yw Duw, sylwi wna ar dy faich,
Pob gair o’th weddïau a glyw.
Ei ysbryd, ei Air, ffrindiau da yn y gwir
Sy’n ennaint cysurus i’th friw.
(CYTGAN)
Boed i Dduw mawr Jehofa roi i ti
Dy dâl yn llawn am dy ymroddiad pur.
Dos dan ei adain yn ddiymdroi.
Jehofa sy’n ffyddlon; Jehofa geirwir.
(Gweler hefyd Barn. 11:38-40; Esei. 41:10.)