Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 138

Prydferthwch Hwyrddydd Oes

Prydferthwch Hwyrddydd Oes

(Diarhebion 16:31)

  1. 1. Cofio wnawn ein hynaf rai,

    Heibio aeth eu nerth.

    Amser ’n ôl ym mlodau’u dydd

    Gwnaethant waith o werth.

    Ac er gwaethaf siom a phrawf,

    Erys eu hapêl.

    O Dduw, gwna nhw’n gryf eu ffydd,

    Teyrngar, doed a ddêl.

    (CYTGAN)

    Cofia, O Jehofa,

    Ffyddlon hynt eu ras.

    D’wed yn dyner wrthynt:

    “Campus wnest. Da was!”

  2. 2. Britho mae gwallt dynol-ryw,

    Addurn yw i’r pen.

    Ceir, wrth rodio’n gyfiawn, triw,

    Goron loyw wen.

    Sefyll wnaethant trwy bob prawf,

    Cawson siom a braw.

    Ond mewn ffydd dal ati maent,

    Union a di-fraw.

    (CYTGAN)

    Cofia, O Jehofa,

    Ffyddlon hynt eu ras.

    D’wed yn dyner wrthynt:

    “Campus wnest. Da was!”

(Gweler hefyd Salm 71:9, 18; Diar. 20:29; Math. 25:21, 23; Luc 22:28; 1 Tim. 5:1.)